Y Bwrdd Rheoli |
Lleoliad: |
Conference Room 4B - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Rhagfyr 2014 |
|
|||
Amser: |
10.00 - 12.30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: MB (18-14) |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Claire Clancy, Chief Executive and Clerk (Cadeirydd) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Bedwyr Jones, Pennaeth TGCh Dros Dro Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Kathryn Potter, Pennaeth Ymchwil Mike Snook, Pennaeth Pobl a Lleoedd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros dro Gwasanaethau'r Comisiwn a Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau Dave Tosh, Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Cynulliad a Chyfarwyddwr TGCh Virginia Hawkins, Pennaeth Llywodraethu |
|||
|
|
||||
|
|
Li |
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Liz Jardine |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mair Parry-Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi), Chris Warner (Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth) a Siân Wilkins (Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau).
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
2 Nodyn cyfathrebu i'r staff - Elisabeth Jones
Cytunodd Elisabeth Jones i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.
3 Sesiwn friffio ar ddiogelwch
Yn sgil digwyddiadau diogelwch rhyngwladol diweddar, estynnodd y Bwrdd Rheoli groeso i gynrychiolwyr yr heddlu i drafod y lefel bresennol o fygythiad yn y DU a sut y gellir lliniaru unrhyw risg bosibl. Roedd hyn yn cynnwys rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i staff er mwyn eu helpu i fod yn ddiogel pe bai digwyddiad yn codi, gan mai blaenoriaeth y Comisiwn yw diogelwch yr Aelodau a’r staff. Gwyliodd y Bwrdd fideo, ‘Stay Safe’ – canllaw yn llawn gwybodaeth a gaiff ei gynhyrchu gan y Swydddfa Gartref, am yr hyn y dylid ei wneud mewn ymosodiad â gynnau.
Er bod trefniadau diogelwch y Comisiwn eisoes yn dda, byddai’r Bwrdd Rheoli yn gweithredu ar gyngor arbenigol y tîm Diogelwch a’r Heddlu er mwyn parhau i sicrhau diogelwch yr Aelodau a’r staff. Cytunwyd y bydd y tîm Diogelwch ac aelodau o’r Bwrdd Rheoli yn llunio cynllun ar gyfer ymateb i ymosodiad â gynnau.
3 Unrhyw Fusnes Arall
Dymunodd y Bwrdd yn dda i Virginia Hawkins ar ei secondiad 12 mis yn Nhŷ'r Arglwyddi wrth iddi ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiect, yr Adolygiad Tâl a Graddfeydd.
Rhoddodd Claire Clancy wybod i'r Bwrdd am ganlyniad Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin mewn perthynas â rôl y Prif Weithredwr a'r Clerc, pwyllgor yr oedd hi a'r Llywydd wedi cyflwyno tystiolaeth iddo. Rhoddodd drosolwg hefyd o'i chyfarfod gyda Chlercod Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
Byddai'r Bwrdd Rheoli yn cwrdd nesaf ar eu diwrnod cwrdd i ffwrdd ar 8 Ionawr 2015.